Dr Juliet Edwards (GMC Rhif Cofrestru 206341G), Dr Jonathan Butcher (GMC Rhif
Cofrestru 334179J) a Dr Katrin Sappert (GMC Rhif Cofrestru 3215348) yw ein
doctoriaid ac maent yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau
meddygol o dan y 'Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol' i Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae gennym boblogaeth practis o tua. 4600 o gleifion ac yn gwasanaethu ardal
wledig eang sydd o fewn radiws 8-10 milltir i’r Dolgellau.
Rydym wedi ein lleoli mewn cadarnle Cymreig traddodiadol ac adlewyrchir hyn yn
ein credoau a’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’n diwylliant.
Bwrdd Iechyd Lleol
Y Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol yn eu hardal am gynllunio, ariannu a darparu:
•
Gwasanaethau gofal sylfaenol – meddygon teulu, fferyllfeydd, deintyddion ac
optometryddion
•
Gwasanaethau ysbyty ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol
•
Gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys y rhai a ddarperir drwy ganolfannau
iechyd cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl.
Bydd Byrddau Iechyd yn gallu darparu gwybodaeth i gleifion a’r cyhoedd am yr
amrywiaeth o wasanaethau y maent yn eu darparu.
Gellir cysylltu â'r BILl fel a ganlyn;
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor,
Gwynedd, LL57 2PW. E-bost: info.bcu@wales.nhs.uk
Ymchwil
O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil
meddygol cymeradwy.