Cyhoeddwyd set newydd o safonau gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 gyda’r nod o godi a gwella lefel y gwasanaeth i
gleifion yng Nghymru gan eu practisau meddygon teulu. Mae Practis Meddygfa
Dolgellau yn cydnabod bod mynediad yn chwarae rhan fawr ym mhrofiad claf.